top of page
Amdanom ni
Sefydlwyd Barti Ddu Cleddyfa Fencing, yn Ngorllewin Cymru, i helpu hyfforddi, hyrwyddo a darparu'r sbort deinamig o Gleddyfa Olympaidd (sefyll a hefyd cleddyfa cadair olwyn) mewn ffurf addysgol a hwyliog. Wedi lleoli yn nhref farchnad Llanbedr Pont Steffan (Llambed), mae Barti Ddu yn glwb chwaraeon amatur cymunedol (CChAC) ac un o glybiau mwyaf gwledig Cleddyfa Cymru.
Cryfder y clwb ydy cynnig profiad cleddyfa unigol trwy sesiynau sydd wedi'i gynllunio ar gyfer pob gallu.
Rydym yn glwb llawr gwlad sy'n arbenigo mewn cleddyfa Ffwyl a Sabr, gyda llygad ar ddarparu Cleddyfa Blaenbwl yn y dyfodol. Mae cleddyfa yn gamp unigryw sy'n creu gwelliannau mewn atgyrchau, meddwl beirniadol (tactegau a strategaeth), seicoleg, cydsymud, cyflymder, cryfder ffrwydrol, techneg ac yn bwysicaf, mae'n hwyl dros ben. Hefyd mae'n gamp hynod ddiogel a ffordd wych i gwrdd â phobl newydd a rhyddhau eich Môr-leidr mewnol.
Covid-19
bottom of page